
2004 Rhif 2917 (Cy.256) (C.121)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB
Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 9 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 i 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Cychwyn y Ddeddf
2 
Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004