
2004 Rhif 2916 (Cy.255) (C.120)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 9 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 105(3) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003 (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y Diwrnod Penodedig
2 
11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a) adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);
(b) adran 78 (diogelwch y wlad);
(c) adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);
(ch) adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);
(d) adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);
(dd) adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac
(e) adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 1995 a bennir yn Atodlen 9.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004