
2004 Rhif 2880 (Cy.250)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004
Wedi'i wneud 2 Tachwedd 2004
Yn dod i rym 19 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 56(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Gofal Cymru, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) O ran y Gorchymyn hwn —
(a) ei enw yw Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004;
(b) mae'n dod i rym ar 19 Tachwedd 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru;
 ystyr “gwaith” (“work”) yw gwaith o unrhyw fath a grybwyllir yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf.
Pennu gweithwyr gofal cymdeithasol
2 

(1) Mae'r gweithwyr gofal cymdeithasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod wedi'u pennu at ddibenion adran 56(1)(b) o'r Ddeddf (dyletswydd y Cyngor i gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol a bennir drwy orchymyn).
(2) Mae'r disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol yn cyfeirio at y personau hynny —
(a) sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf;
(b) sydd fel arfer yn cyflawni rhyw waith yng Nghymru neu'n disgwyl gwneud hynny; ac
(c) y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, yn rhinwedd y gwaith hwnnw, ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol ar eu cyfer o dan adran 113(1) neu 115(1) o Ddeddf yr Heddlu 1997.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004