
2004 Rhif 2746 (Cy.244)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004
Wedi'i wneud 13 Hydref 2004
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Mai 2003 ynghylch ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, ynghyd â chynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn;
A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, gyda'r eithriad bod rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004.
Dehongli
2 
Ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'i diwygiwyd.
Newidiadau i'r Ffiniau Sirol
3 
Mae'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch wedi'i newid yn unol ag Erthygl 4.
Ffin Sirol newydd
4 
Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, a ddangosir ar y map ffiniau, i gynnwys yr hyn a ddangosir ar y map ffiniau fel “Ffin Sirol Newydd/Ffin Newydd Sir wedi'i Chadw”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau i'w chynnwys yn Sir Powys yn lle ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Newid canlyniadol i adrannau etholiadol
5 
Newidir ffiniau ward Ystalyfera yng nghymuned Ystalyfera (sy'n ffurfio rhan o ardal etholiadol Ystalyfera), a ward Cwm-twrch yng nghymuned Ystradgynlais (yn ardal etholiadol Cwm-twrch) fel eu bod yn cyd-fynd â'r ffin fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.
Newid canlyniadol i Ffin Siroedd Wedi'u Cadw
6 
Mae ffiniau siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sef y siroedd sydd wedi'u cadw, wedi'u newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
13 Hydref 2004

