
2004 Rhif 2734 (Cy.241)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004
Yn dod i rym 5 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd, ac yntau'n cael ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 5 Tachwedd 2004.
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle paragraff (3)(b)(ii) o reoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi) rhodder y paragraff a ganlyn —“
(ii) the procedure set out in Commission Directive 2003/126/EC on the analytical method for the determination of constituents of animal origin for the official control of feedingstuffs shall be used.”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004