
2004 Rhif 2733 (Cy.240)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004
Yn dod i rym 31 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 141 ac 210(7) o Ddeddf Addysg 2002.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “addysgu” (“teaching”, “to teach”) yw cyflawni unrhyw weithgaredd o'r fath a ragnodwyd gan reoliad 5(1)(a) i (ch);
 mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys person sy'n cymryd person arall ymlaen i ddarparu gwasanaethau heb iddo fod o dan gontract cyflogaeth;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “gweithgaredd perthnasol” (“relevant activity”) yw gweithgaredd o'r fath a ragnodir gan reoliad 5(1)(a) i (f); ac
 ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw gweithio am ddim mwy na dau ddiwrnod a hanner o ddyddiau gwaith arferol, neu gyfnod cyfatebol, mewn unrhyw wythnos waith.
Dirymiadau
4 
Dirymir rheoliadau 5, 6 a 7 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.
Gweithgareddau rhagnodedig
5 

(1) Mae'r holl fathau o weithgareddau a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 141 o Ddeddf 2002—
(a) cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i blant;
(b) cyflwyno gwersi i blant;
(c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;
(ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;
(d) gweithgaredd sy'n cynorthwyo neu'n cefnogi addysgu;
(dd) goruchwylio, cynorthwyo a chefnogi plentyn;
(e) gweithgaredd gweinyddol neu drefniadol sy'n cefnogi wrth ddarparu addysg; ac
(f) gweithgaredd sy'n atodol i ddarparu addysg.
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
Safonau iechyd
6 

(1) Ni chaiff person wneud gweithgaredd perthnasol oni bai bod ganddo'r gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud y gweithgaredd hwnnw, o ystyried unrhyw ddyletswydd sydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid ystyrir fod gan berson sy'n derbyn pensiwn ymddeol, yn rhinwedd rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997 (ymddeol oherwydd afiechyd), y gynneddf gorfforol na'r iechyd i addysgu.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson a benodwyd i addysgu yn rhan-amser os oedd hawl y person i gael pensiwn o'r fath, fel y'i disgrifir yn y paragraff hwnnw, yn effeithiol cyn 1 Ebrill 1997.
(4) Os cyfyd unrhyw gwestiwn o ran cynneddf gorfforol neu iechyd person i wneud gweithgaredd perthnasol y mae wedi'i gymryd ymlaen i'w wneud, penderfynir ar y cwestiwn hwnnw yn unol â rheoliad 7.
Penderfyniadau o ran cynneddf gorfforol neu iechyd
7 

(1) Rhaid unrhyw gwestiwn fel y cyfeirir ato yn rheoliad 6(4) gael ei benderfynu gan y cyflogwr ac, er mwyn iddo wneud hynny —
(a) rhaid iddo roi cyfle i'r person roi tystiolaeth feddygol gerbron a gwneud sylwadau i'r cyflogwr;
(b) rhaid i'r cyflogwr ystyried y cyfryw dystiolaeth a sylwadau ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddo, gan gynnwys tystiolaeth feddygol sy'n ymwneud â'r person ac a roddwyd i'r cyflogwr yn gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld, a hynny yn nhyb y person a roddodd y dystiolaeth;
(c) gall y cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i'r person gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol ac a benodwyd gan y cyflogwr;
(ch) rhaid iddo drefnu archwiliad felly os yw'r person dan sylw yn gofyn amdano; ac
(d) os nad yw'r person yn ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da, neu os yw'n gwrthod neu'n methu â rhyddhau'r wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall i'r ymarferydd meddygol y caiff ef ofyn amdani yn rhesymol, caiff y cyflogwr ddod i'r casgliad nad oes gan y person dan sylw y gynneddf gorfforol neu'r iechyd angenrheidiol, os yw'r dystiolaeth a gwybodaeth arall sydd ar gael i'r cyflogwr yn cyfiawnhau hynny, a hynny er gwaethaf y ffaith y byddai fel arall wedi bod yn ddymunol cael tystiolaeth feddygol bellach.
(2) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch), caiff y cyflogwr neu'r person gyflwyno i'r ymarferydd meddygol penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad.
(3) Gall ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol sydd wedi'i benodi gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad meddygol fel y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004