
2004 Rhif 2732 (Cy.239)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004
Yn dod i rym 31 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer ei bwerau yn adrannau 7(2), 10(2), 11(1) a (3), 12(1), 15(5) a 22 o Ddeddf Caffael Tir 1981 a pharagraffau 2(1) a (3), 3(1) a 6(5) o Atodlen 1 a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi (“y Ddeddf”), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol—
(a) sy'n ddarostyngedig i gadarnhad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran 2 o'r Ddeddf ac nad yw'r awdurdod caffael, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad ar wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o'r Ddeddf; neu
(b) a baratowyd ar ffurf drafft gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad bod gorchymyn prynu gorfodol drafft wedi'i baratoi yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig ” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990; ac
 ystyr “gorchymyn prynu gorfodol clirio” (“clearance compulsory purchase order”) yw gorchymyn prynu gorfodol a wnaed yn unol ag adran 290 o Ddeddf Tai 1985.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ffurf â Rhif yn gyfeiriad at—
(a) y ffurf sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(b) ffurf a addaswyd, yn ôl y gofyn, o'r ffurf honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw er mwyn bodloni amgylchiadau achos penodol; neu
(c) ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno, p'un ai a chafodd ei haddasu ai peidio; ac
(ch) mewn perthynas â ffurf a ganiateir gan is-baragraffau (a) i (c) uchod, y ffurf honno yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu'r ddwy iaith.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno yn y Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen honno i'r Ddeddf.
Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol
3 

(1) At ddibenion adran 10(2) o'r Ddeddf, ffurf y gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a) Ffurf 1; neu
(b) os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 2; neu
(c) os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 3.
(2) At ddibenion adran 10(2), ffurf y gorchymyn prynu gorfodol clirio y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a) Ffurf 4; neu
(b) os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 5; neu
(c) os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 6.
(3) At ddibenion—
(a) adran 11(1) o'r Ddeddf a pharagraff 2(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd; a
(b) adran 11(3) o'r Ddeddf a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad sydd i'w gosod ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn,
y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 7.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 4 —
(a) at ddibenion adran 12(1) o'r Ddeddf a paragraff 3(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad i berson cymwys y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 8; neu
(b) os gwneir y gorchymyn o dan adran 121 neu 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar ran prif gyngor neu gyngor cymuned, neu yn unol â chytundeb o dan adran 8 o Ddeddf Priffyrdd 1980) ar ran awdurdod priffyrdd, y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 9.
(5) At ddibenion adran 15 o'r Ddeddf a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad o gadarnhau ) neu wneud  y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 10, ac eithrio pan wneir y cadarnhau gan yr awdurdod caffael yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf, ac yn yr achos hwnnw y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 11.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd, sy'n datgan bod tystysgrif wedi cael ei rhoi o dan adran 16 neu 19 o'r Ddeddf neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi, y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 12.
Darpariaethau ychwanegol o ran adeiladau rhestredig
4 
Os caiff gorchymyn prynu gorfodol ei wneud o dan adran 47 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (caffaeliad gorfodol o adeiladau rhestredig y mae angen eu trwsio), rhaid cynnwys —
(a) yn Ffurf 1, pan fo'n briodol, y paragraff â Rhif 4 yn y Ffurf honno;
(b) ar ddiwedd paragraff 2 o Ffurf 8—
(i) ym mhob achos, y paragraffau ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 a rifwyd 3 a 5;
(ii) yn unrhyw achos lle mae angen hysbysiad yn ôl adran 50(3) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (lleiafswm iawndal yn achos adeilad a adawyd i ddadfeilio'n fwriadol) i gynnwys datganiad bod yr awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer lleiafswm iawndal, y paragraff ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 â Rhif 4,
ac mae gweddill y paragraffau i'w hailrifo'n unol â hynny.
Dirymu
5 
Dirymir Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol 1994 i'r graddau y byddent yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
ATODLEN
Rheoliad 2(2)

CYNNWYSFfurf 1 Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio).
Ffurf 2 Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) sy'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid.
Ffurf 3 Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) nad yw'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid, ond y mae'n darparu ar gyfer rhyddhau o hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion.
Ffurf 4 Gorchymyn prynu gorfodol clirio.
Ffurf 5 Gorchymyn prynu gorfodol clirio sy'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid.
Ffurf 6 Gorchymyn prynu gorfodol clirio nad yw'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid, ond y mae'n darparu ar gyfer rhyddhau o hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion.
Ffurf 7 Hysbysiad ynghylch gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer cyhoeddiad papur newydd ac arddangos ar neu gerllaw'r tir sy'n destun y gorchymyn.
Ffurf 8 Hysbysiad i berson cymwys o dir (neu dir sy'n ddarostyngedig i hawliau newydd) a geir mewn gorchymyn prynu gorfodol.
Ffurf 9 Hysbysiad i berson cymwys o dir (neu dir sy'n ddarostyngedig i hawliau newydd) a geir mewn gorchymyn prynu gorfodol a wneir ar ran cyngor.
Ffurf 10 Hysbysiad o wneud neu gadarnau gorchymyn prynu gorfodol (gan awdurdod nad yw'n awdurdod caffael).
Ffurf 11 Hysbysiad o gadarnau gorchymyn prynu gorfodol gan awdurdod caffael.
Ffurf 12 Hysbysiad papur newydd o roi tystysgrif o dan adran 16 neu 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi.
FFURF 1
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL
Rheoliad 3(1)(a)
FFURF 2
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL SY'N DARPARU AR GYFER BREINIO TIR CYFNEWID
Rheoliad 3(1)(b)
FFURF 3
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL SY'N DARPARU AR GYFER RHYDDHAU HAWLIAU, YMDDIRIEDOLAETHAU A NODWEDDION
Rheoliad 3(1)(c)
FFURF 4
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL CLIRIO
Rheoliad 3(2)(a)
FFURF 5
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL CLIRIO SY'N DARPARU AR GYFER BREINIO TIR CYFNEWID
Rheoliad 3(2)(b)
FFURF 6
FFURF GORCHYMYN PRYNU GORFODOL SY'N DARPARU AR GYFER RHYDDHAU HAWLIAU, YMDDIRIEDOLAETHAU A NODWEDDION
Rheoliad 3(2)(c)
FFURF 7
FFURF HYSBYSU YNGHYLCH GORCHYMYN PRYNU GORFODOL AR GYFER CYHOEDDIAD PAPUR NEWYDD AC ARDDANGOS AR NEU GERLLAW'R TIR SYDD YN Y GORCHYMYN
Rheoliad 3(3)
FFURF 8
FFURF HYSBYSU I BERSON CYMWYS MEWN PERTHYNAS Å THIR (NEU DIR SY'N DDAROSTYNGEDIG I HAWLIAU NEWYDD) A GEIR MEWN GORCHYMYN PRYNU GORFODOL
Rheoliad 3(4)(a)
FFURF 9
FFURF HYSBYSIAD I BERSON CYMWYS MEWN PERTHYNAS Å THIR (NEU DIR A FYDD YN DDAROSTYNGEDIG I HAWLIAU NEWYDD) A GEIR MEWN GORCHYMYN PRYNU GORFODOL A WNEIR AR RAN CYNGOR (a)
Rheoliad 3(4)(b)
FFURF 10
FFURF HYSBYSIAD O WNEUD NEU GADARNAU GORCHYMYN PRYNU GORFODOL (GAN AWDURDOD NAD YW'N AWDURDOD CAFFAEL)
Rheoliad 3(5)
FFURF 11
FFURFLEN HYSBYSU O WNEUD GORCHYMYN PRYNU GORFODOL GAN AWDURDOD CAFFAEL
Rheoliad 3(5)
FFURF 12
FFURF HYSBYSIAD PAPUR NEWYDD AR ROI TYSTYSGRIF O DAN ADRAN 16 NEU 19 O DDEDDF CAFFAEL TIR 1981, NEU BARAGRAFF 3 NEU 6 O ATODLEN 3 IDDI
Rheoliad 3(6)