
2004 Rhif 2730 (Cy.237)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004
Yn dod i rym 31 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 7(2), 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai—
(a) yn awdurdod cadarnhau; neu
(b) yn awdurdod priodol,
ac y mae'n ystyried defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, neu'n ystyried trafodion o dan y weithdrefn honno.
(3) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os digwydd y canlynol cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a) yn achos paragraff (2)(a), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981; neu
(b) yn achos paragraff (2)(b), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o baratoi'r gorchymyn prynu gorfodol ar ffurf ddrafft yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “anfon” (“send”) yw anfon rhywbeth, gan ragdalu am y post dosbarth cyntaf, sydd wedi'i gyfeirio at y cyfeiriad cywir neu at unrhyw gyfeiriad amgen y bydd y derbyniwr yn gofyn amdano;
 ystyr “y cyflwyniad” (“the submission”) yw'r cyflwyniad sy'n gofyn am gadarnhau gorchymyn prynu gorfodol o dan Ran II o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu sy'n gofyn am wneud gorchymyn prynu gorfodol a baratowyd ar ffurf ddrafft o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno;
 mae “datganiad” (“statement”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan, ond yn eithrio datganiadau llafar;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵ yl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw'r dyddiad dechrau y cyfeirir ato yn rheoliad 4(a);
 ystyr “y sawl sy'n parhau i wrthwynebu” (“remaining objector”) yw person sydd â gwrthwynebiad sy'n parhau); ac
 ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau ysgrifenedig, datganiadau a dogfennau ategol.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn cyfeirio at adrannau Deddf Caffael Tir 1981, ac mae cyfeiriadau at Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(3) Os y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod caffael, mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n gofyn am gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn gymwys gyda'r addasiadau hynny y gall fod eu hangen.
Cydsynio
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r dull y caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu gydsynio i'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(2) Er mwyn rhoi ei gydsyniad, rhaid i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y bydd yn dod i law dim hwyrach na'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan nodi arno gydsyniad y gwrthwynebydd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu ar ffurf sy'n sylweddol debyg o ran ei heffaith.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) at bob un sy'n parhau i wrthwynebu a rhaid hysbysu dyddiad gyda'r hysbysiad hwnnw nad sy'n llai na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad pan anfonir yr hysbysiad at y sawl sy'n gwrthwynebu.
(5) Os na roddir cydsyniad gan bob un sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â pharagraff (2), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (6), yn mynd rhagddo ar y sail nad yw'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys.
(6) Os daw'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), lle y dangosodd y sawl sy'n parhau i wrthwynebu ei gydsyniad i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y sawl sy'n gwrthwynebu fel un a gydsyniodd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ac, os felly, caiff ddewis mynd rhagddo o dan y weithdrefn honno os yw'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i wneud hynny.
(7) Os yw paragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried pa gamau a gymerwyd gan yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu neu drydydd parti y dylid ystyried eu bod yn golygu iddynt gydymffurfio'n sylweddol ag unrhyw ofynion sy'n dilyn yn y Rheoliadau hyn a rhaid iddo hysbysu'r personau hynny yn unol â hynny.
Hysbysu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys
4 
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, a'r awdurdod caffael, yn ysgrifenedig am—
(a) y dyddiad a fydd yn ddyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig;
(b) y cyfeirnod a roddwyd i'r cyflwyniad;
(c) y cyfeiriad y dylid anfon cyfathrebu ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(ch) teitlau neu ddisgrifiadau y datganiadau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sylwadau wrth benderfynu ar y cyflwyniad.
Sylwadau
5 

(1) Cymerir fod unrhyw ddatganiad y mae'r awdurdod caffael yn ei roi i bawb sy'n parhau i wrthwynebu, ar yr adeg y mae'n rhoi hysbysiad o dan adran 12 neu baragraff 3 o Atodlen 1, yn ffurfio rhan o sylwadau'r awdurdod caffael at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r awdurdod caffael roi unrhyw ddatganiad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru'r datganiad hwnnw os derbyniodd ef fwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Bydd y gwrthwynebiad a wnaed i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn ffurfio rhan o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, ac, os na fydd wedi gwneud hynny eisioes, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gwrthwynebiad at yr awdurdod caffael er mwyn iddo ddod i law ymhen dim mwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(4) Caiff yr awdurdod caffael—
(a) gwneud sylwadau pellach i gefnogi ei gyflwyniad; neu
(b) dewis trin unrhyw ddatganiad o dan baragraff (1) fel ei sylwadau mewn perthynas â'r cyflwyniad at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid i'r awdurdod caffael hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a phawb sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â hynny.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os yw'n derbyn y sylwadau hynny fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(6) Caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu—
(a) gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegol at y rheini ym mharagraff (3); neu
(b) dewis trin y gwrthwynebiad o dan baragraff (3) fel sylwadau'r gwrthwynebydd hwnnw at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn unol â hynny.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (6) os yw'r sylwadau yn dod i law mwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (4)(a), neu hysbysiad o dan baragraff (4)(b), at y sawl sy'n parhau i wrthwynebu.
(8) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a wnaed o dan baragraff (6)(a) neu unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 6 isod.
(9) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (8) os daeth y sylwadau i law'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (6)(a) at yr awdurdod caffael; neu
(b) mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o dan reoliad 6(3) o'r Rheoliadau hyn, os na wnaed sylwadau o dan baragraff (6)(a).
(10) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r awdurdod caffael, a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, ddarparu copïau ychwanegol o sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amserlen resymol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu.
(11) Er mwyn i'r broses medru cael ei chwblhau'n ddi-oed, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon—
(a) copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr awdurdod caffael at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu;
(b) copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod caffael; ac
(c) hysbysiad at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael na wnaed unrhyw sylwadau eraill o fewn y cyfnod a ganiateir gan y rheoliad hwn.
Sylwadau trydydd partïon
6 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson nad yw'n awdurdod caffael nac yn parhau i wrthwynebu wneud sylwadau.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed yn unol â pharagraff (1) os derbynnir hwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael—
(a) copi o unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1); neu
(b) hysbysiad na wnaed sylwadau o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a ganiateir.
(4) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1).
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os derbyniodd hwy fwy na 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau a wnaed o dan baragraff (1) at yr awdurdod caffael.
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i unrhyw berson sy'n gwneud sylwadau o dan baragraff (1), neu'r awdurdod caffael, roi copïau ychwanegol o'r sylwadau iddo o fewn amserlen resymol y caiff y Cynulliad ei phennu.
Caniatáu mwy o amser
7 
Mewn achos penodol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau i osod terfynau amser hwyrach ar gyfer cael sylwadau na'r rheini a ganiateir gan reoliadau 5 a 6.
Penodi arolygydd
8 
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi archwilydd i—
(a) ystyried y datganiadau a roddwyd o dan reoliad 4(ch) a'r sylwadau a roddwyd yn unol â rheoliadau 5 a 6;
(b) archwilio safle, os bydd hynny'n briodol; ac
(c) cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag argymhelliad, i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cyflwyniad.
Archwilio safleoedd
9 

(1) Caiff yr archwilydd, ar unrhyw adeg, gynnal—
(a) archwiliad heb rywun yn gwmni iddo a heb roi rhaghysbysiad ohono i'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; a
(b) archwiliad yng nghwmni yr awdurdod caffael a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, neu eu cynrychiolwyr,
o dir sy'n destun i'r gorchymyn prynu gorfodol ac o'r ardal gyfagos.
(2) Yn achos archwiliad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser yr archwiliad at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y bydd yn dod i law dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ohirio archwiliad o dan baragraff (1)(b) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais gan yr awdurdod caffael neu gan un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gofyn am archwiliad, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath.
Penderfynu
10 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad ar sail y datganiadau a wnaed o dan reoliad 4(ch), sylwadau a roddwyd yn unol â rheoliadau 5 a 6 ynghyd ag unrhyw adroddiad a baratowyd yn unol â rheoliad 8(c).
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad o leiaf 10 niwrnod gwaith ar ôl anfon hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny at yr awdurdod caffael ac at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, er na wnaed unrhyw sylwadau o fewn y terfynau amser a ganiatawyd neu a estynnwyd o dan y Rheoliadau hyn, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd i ddod i benderfyniad.
Hysbysiadau o benderfyniadau
11 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad, a'r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, at—
(a) yr awdurdod caffael;
(b) pob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; ac
(c) unrhyw berson arall a ganiatawyd i wneud sylwadau o dan reoliad 6.
(2) Os bydd person sydd â'r hawl i gael hysbysiad o'r penderfyniad eisiau gwneud cais am gyfle i archwilio unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth ddod i'w benderfyniad, neu i gael copïau ohonynt, rhaid iddo wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cafodd ei hysbysu o'r penderfyniad; ac, os gwneir cais o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, wneud trefniadau ar gyfer yr archwiliad neu, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais, anfon y copi y gofynnwyd amdano at y person hwnnw.
Cyfathrebu'n electronig
12 
Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
YR ATODLEN
Rheoliad 3(3)
