
2004 Rhif 2558 (Cy.229)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 28 Medi 2004
Yn dod i rym 30 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Medi 2004.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 90/496”, mewnosoder ar y diwedd y geiriau “, as amended by Commission Directive 2003/120/EC”.
4 
Yn Rhan I o Atodlen 7 (cyflwyno labeli maethol a ragnodwyd), ym mharagraff 5 mewnosoder ar ddiwedd yr is-baragraff canlynol —“
(g) 1 gram of salatrims shall be deemed to contribute 25kJ (6 kcal)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Medi 2004