
2004 Rhif 2557 (Cy.228) (C.107)
TAI, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 28 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date” ) yw 30 Medi 2004; a
(b) mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2 
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a) yn Rhan 2 (tai)—
(i) adran 13 (gwaharddebion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fydd landlordiaid cymdeithasol penodol yn gwneud cais amdanynt);
(ii) adran 14 ac Atodlen 1 (diogelwch deiliadaeth: ymddygiad gwrthygymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau y maent yn rhoi'r pwer i wneud rheoliadau;
(iii) adran 16 (achosion meddiannu: ymddygiad gwrthgymdeithasol); a
(iv) adran 17 (datganoli: Cymru);
(b) yn Rhan 9 (pwerau amrywiol) adran 91 (adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: pwer arestio sydd ynghlwm wrth waharddeb).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Medi 2004
YR ATODLEN
Arbed
1 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Bennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 (b) gan adran 13 yn effeithiol mewn perthynas ag —
(a) unrhyw gais am waharddeb o dan adran 152, neu unrhyw gais y mae adran 153 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo, ac a ddyroddwyd cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b) unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw; neu
(c) unrhyw bwer arestio sydd ynghlwm wrth unrhyw ddarpariaeth merwn gwaharddeb; neu
(ch) unrhyw orchymyn llys arall a roddir, neu achos sy'n codi, mewn cysylltiad â'r cais hwnnw neu'r waharddeb honno.
2 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988 gan adran 16 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw achos meddiannu ty annedd a ddechreuwyd cyn y dyddiad cychwyn.
3 
Ni fydd adran 91 yn effeithiol mewn perthynas ag—
(a) unrhyw gais am waharddeb o dan adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a ddyroddwyd cyn y dyddiad cychwyn;
(b) unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw.