
2004 Rhif 2507 (Cy.225)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 21 Medi 2004
Yn dod i rym 30 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 1(7) o Atodlen 14 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005 yn unig.
(3) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ac mae “llywodraethwr” (“governor”) yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro;
 mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;
 dehonglir “cyllideb ddiprwyedig” yn unol â “delegated budget” yn adran 49(7) o Ddeddf 1998;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (sut bynnag y caiff ei eirio) yn cynnwys y canlynol yn unig, sef ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig, a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgol o'r fath y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan yr awdurdod ac y mae ganddi gorff llywodraethu dros dro y gwnaed y trefniadau ar gyfer ei ffurfio gan yr awdurdod gan gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodwyd arno gan adran 44(1) o Ddeddf 1998 neu adran 34(1) o Ddeddf 2002).
Dirymu
3 
Dirymir rheoliadau 25 i 28 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 3 iddynt ar 1 Ebrill 2005.
Yr hyn sy'n ofynnol i'w gynnwys yn y cynlluniau
4 
Rhaid i gynllun a baratoir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y nodir hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau yma.
Dull cyhoeddi
5 
At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (y dull a ragnodir i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw i rym ac yn yr amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 6 —
(a) drwy roi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b) drwy drefnu bod copi ar gael i gyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl —
(i) ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a
(ii) ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod ac sydd ar gael i'r cyhoedd.
Amgylchiadau ychwanegol pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau
6 
At ddibenion paragraff 1(7)(b) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (achlysuron a ragnodwyd pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw unrhyw ddiwygiad ohono i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Medi 2004
YR ATODLEN
CYNNWYS Y CYNLLUNIAU
Rheoliad 4
Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, y mae angen i'r awdurdod addysg lleol ymdrin â hwy yn ei gynllun yw:

1 
Cario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall y gwargedau a'r diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion.
2 
Symiau y gellir eu tynnu yn erbyn cyfrannau cyllideb ysgolion.
3 
Symiau a gafodd ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.
4 
Gosod amodau gan neu o dan y cynllun y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy mewn perthynas â rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y mae'r awdurdod yn trefnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau a ragnodwyd gan reolau a gweithdrefnau ariannol.
5 
Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.
6 
Talu llogau gan yr awdurdod neu iddo.
7 
Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a phan drefnir pa ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.
8 
Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.
9 
Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c) o Ddeddf 1998.
10 
Y defnydd ar gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.
11 
Benthyca gan gyrff llywodraethu.
12 
Trefniadau bancio y caiff cyrff llywodraethu eu gwneud.
13 
Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.
14 
Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996.
15 
Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.
16 
Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu ac iddo.
17 
Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.
18 
Cynlluniau gwario corff llywodraethu.
19 
Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud i warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran cyllideb yr ysgol neu £10,000 p'un bynnag sydd fwyaf.
20 
Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.
21 
Yswiriant.
22 
Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974.
23 
Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.
24 
Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.
25 
Prydau ysgol.
26 
At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu wedduster ariannol yn yr ysgol a sut y dylid ymdrin â chwynion o'r fath.
27 
Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵ er a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.
28 
Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.