
2004 Rhif 245 (Cy.24)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 4 Chwefror 2004
Yn dod i rym 8 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 8 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol —“
(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau Brasil, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd nad yw'r cnau hynny yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd), caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig mai ef yw'r mewnforiwr, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn —
(a) ailanfon y cnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, ond dim ond os cydymffurfir â'r amodau a bennir ym mhwyntiau (a) i (c) o Erthygl 6 o Benderfyniad y Comisiwn; neu
(b) (pan na chydymffurfir â'r gofynion hynny) distrywio'r cnau Brasil o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—
(a) hawl apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.”.
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 yn unol â pharagraffau (2), (3) a (4).
(2) Ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorwch y geiriau “Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)”.
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.
(4) Yn rheoliad 7 hepgorwch y geiriau “Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 1997, Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997 a”.
Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
4 

(1) Diwygir Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mhob achos, ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorir y geiriau “Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)”.
(3) Ym mhob achos, ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Chwefror 2004