
2004 Rhif 1826 (Cy.202)
DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004
Wedi'i wneud 14 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 1 Awst 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004 a daw i rym ar 1 Awst 2004.
Cynnydd yn y terfyn ariannol
2 
At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £3,000 miliwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2004