
2004 Rhif 1809 (Cy.196)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 30 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991, ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Cynnydd yn y ffi archwilio
2 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 amnewdir am y ffigur “£20” yno y ffigur “£21”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004