
2004 Rhif 1804 (Cy.192)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004
Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision” rhodder y diffiniad canlynol—“
 “the Commission Decision” means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China) as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/678/EC, Commission Decision 2003/550/EC and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community ;”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) Rheoliadau 2002) yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision” rhodder y diffiniad canlynol —“
 “the Commission Decision” means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/679/EC), Commission Decision 2003/552/EC and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community ;”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
4 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003) yn lle'r diffiniad o “ Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Brasil neu a draddodir oddi yno fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno;”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
5 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran neu a draddodir oddi yno fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC), Penderfyniad y Comisiwn 2000/238/EC, Penderfyniad y Comisiwn 2003/551/EC) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/ EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw;”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
6 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/49/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 1999/356/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio pysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o bysgnau sy'n tarddu o'r Aifft neu a draddodir oddi yno) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/580/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004