
2004 Rhif 1758 (Cy.189)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Symiau diwygiedig o'r taliad colli cartref
2 
Pan fo'r dyddiad dadleoli ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym —
(a) £34,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
(b) £3,400 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
(c) £3,400 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbedion
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 wedi'u dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2004