
2004 Rhif 1748 (Cy.185)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) ac (8) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac adrannau 17A(1), (3) a (4) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004;
(b) deuant i rym ar 1 Tachwedd 2004;
(c) maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 dehonglir “awdurdod cyfrifol” yn unol â “responsible authority” yn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu (yn ôl y digwydd) adran 17A(2) o Ddeddf 1989;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban)1984;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995);
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000;
 ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
 mae i “gwasanaeth perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant service” gan reoliad 5(2);
 ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu (yn ôl y digwydd) reoliad 4;
 ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Lloegr) 2003); a
 dehonglir “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yn unol â rheoliad 5.
(2) Yn y rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b) mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n;
(c) mae cyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau — gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr
3 

(1) At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person sy'n dod fewn adran 57(2) o'r Ddeddf honno o ddisgrifiad rhagnodedig—
(a) os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; a
(b) os daw o fewn disgrifiad ym mharagraff (2); oni bai
(c) ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.
(2) Dyma'r disgrifiadau —
(a) person y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948  yn gymwys iddo;
(b) person (nad yw'n berson sy'n dod o fewn is-baragraff (a)) y cyfeirir ato yn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001(personau y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu mewn perthynas â hwy bod eu anghenion yn galw am ddarparu gwasanaeth gofal cymunedol penodol) sydd dros 65 oed;
(c) person y mae'r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu mewn perthynas ag ef o dan adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau i ofalwyr) i ddarparu gwasanaeth penodol o dan y Ddeddf honno ar ei gyfer.
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau — gwasanaethau plant
4 
At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person sy'n dod fewn adran 17A(2) o'r Ddeddf honno o ddisgrifiad rhagnodedig —
(a) os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; oni bai
(b) ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.
Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol
5 

(1) Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol wneud y taliadau hynny (“taliadau uniongyrchol”) y penderfynir arnynt yn unol â rheoliad 6 mewn perthynas â'r canlynol —
(a) person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(a) neu (c) o'r rheoliad hwnnw;
(b) ar 1 Mawrth 2005 ac ymlaen, person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) o'r rheoliad hwnnw; a
(c) person rhagnodedig o dan reoliad 4;
o ran sicrhau darparu gwasanaeth perthnasol.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr gwasanaeth perthnasol yw —
(a) gwasanaeth gofal cymunedol yn ystyr adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990; neu
(b) gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; neu
(c) gwasanaeth y ceir ei ddarparu wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).
(3) Dyma'r amodau —
(a) bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y gellir bodloni anghenion y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau ei ddarparu drwy daliad uniongyrchol; a
(b) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef yn cael ei ddiogelu neu ei hybu drwy sicrhau ei ddarpariaeth drwy daliad uniongyrchol.
Swm a thaliad taliadau uniongyrchol
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), gwneir taliad uniongyrchol yn daliad gros oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y dylid ei wneud yn daliad net.
(2) At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu, ar ôl ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os o gwbl) y mae'n rhesymol ymarferol iddo'u talu tuag at sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol (boed drwy ad-daliad fel y crybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu drwy gyfraniad fel y crybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).
(3) Os yw'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, heblaw am y rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal) —
(a) rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a
(b) ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.
(4) Os gwneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989) —
(a) rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a
(b) ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno) yn gymwys.
(5) Ceir talu taliad uniongyrchol —
(a) i'r person rhagnodedig; neu
(b) i berson a enwebwyd ganddo i dderbyn y taliad ar ei ran.
Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol
7 

(1) Bydd taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod na sicrheir y gwasanaeth a wneir mewn perthynas ag ef gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni bai —
(a) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(a) neu (b), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau'r gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i ddiwallu angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth yn foddhaol;
(b) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i hybu lles y plentyn mewn angen.
(2) Dyma'r personau —
(a) priod y person rhagnodedig;
(b) person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel ei briod;
(c) person sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig sy'n sy'n dwyn y berthynas ganlynol iddo —
(i) rhiant neu riant-yng nghyfraith;
(ii) mab neu ferch;
(iii) mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;
(iv) llysfab neu lysferch;
(v) brawd neu chwaer;
(vi) modryb neu ewythr; neu
(vii) tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
(ch) priod unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod i'r person hwnnw.
(3) Nid yw paragraff (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c) o Ddeddf 1989.
(4) Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau eraill (os oes rhai) fel y gwêl orau.
(5) Gall yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), yn benodol, ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r talai —
(a) beidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol oddi wrth berson penodol;
(b) roi'r wybodaeth honno i'r awdurdod cyfrifol y maent o'r farn ei bod yn angenrheidiol mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol.
Mwyafswm cyfnodau llety preswyl y gellir eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol
8 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ar gyfer darparu llety preswyl iddo am gyfnod sy'n fwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2) Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), mewn unrhyw gyfnod o 12 mis—
(a) ychwanegir cyfnod dechreuol mewn llety preswyl am lai na 4 wythnos (cyfnod A) at gyfnod dilynol (cyfnod B) yn unig os bydd cyfnod B yn dechrau o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd cyfnod A; a
(b) cynhwysir unrhyw gyfnod mewn llety preswyl ar ôl cyfnod B wrth gyfrifo.
(3) Ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 4 ar gyfer darparu llety preswyl —
(a) am unrhyw gyfnod sengl sy'n fwy na 4 wythnos; a
(b) am unrhyw gyfnod sy'n fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Disodli swyddogaethau a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol
9 

(1) Ac eithrio'r hyn a ddarperir gan baragraff (2), ni fydd y ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau o ran darparu'r gwasanaeth, o dan y deddfiad perthnasol, y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.
(2) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth o ran y darparu'r gwasanaeth o dan y deddfiad perthnasol y mae'r taliad yn ymwneud ag ef cyhyd â'i fod yn fodlon fod yr angen sy'n galw am ddarparu'r gwasanaeth yn dod o drefniadau'r talai ei hun.
(3) Ym mharagraff (1) a (2), mae cyfeiriadau at ddeddfiad perthnasol, mewn perthynas â darparu gwasanaeth, yn gyfeiriad at ddeddfiad y byddai'r gwasanaeth yn cael ei darparu odano heblaw am y Rheoliadau hyn.
Ad-dalu taliad uniongyrchol
10 

(1) Os bydd awdurdod cyfrifol sydd wedi gwneud taliad uniongyrchol wedi'i fodloni, mewn perthynas â'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad —
(a) na ddefnyddiwyd ef i sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol y mae'n ymwneud ag ef; neu
(b) na chydymffurfiwyd ag amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7;
gall ei gwneud yn ofynnol i'r taliad neu, yn ôl y digwydd, ran o'r taliad gael ei ad-dalu.
(2) Gellir adennill unrhyw swm sydd i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod.
Terfynu taliadau uniongyrchol
11 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson —
(a) os yw'n peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu
(b) os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 5(3) yn peidio â chael ei fodloni.
(2) Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson rhagnodedig os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001.
(3) Os bydd y person y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn perthynas ag ef yn peidio â bod yn alluog i reoli taliadau o'r fath, caiff awdurdod cyfrifol serch hynny barhau i wneud taliadau o'r fath —
(a) os yw'n rhesymol fodlon y bydd analluedd y person yn un dros dro;
(b) os oes person arall yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person analluog; a
(c) os yw'r person y gwnaed trefniadau gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cytuno i dderbyn tâl am y gwasanaethau oddi wrth y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).
Diwygiadau canlyniadol
12 
Bydd y diwygiadau a wnaed gan reoliad 11 o Reoliadau 2003 ac a gynhywsir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys yng Nghymru.
Dirymu
13 

(1) Dirymir drwy hyn Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997, i'r graddau nas dirymwyd hwy gan Reoliadau 2003, a Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Diwygio (Cymru) 2000.
(2) Dirymir drwy hyn reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001.
(3) Dirymir drwy hyn Reoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2004
ATODLEN 1
PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT
Rheoliadau 3(1) a 4

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r canlynol —
(a) person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn adsefydlu cymunedol yn ystyr adran 41 o Ddeddf 2000 neu orchymyn cosb gymunedol ac adsefydlu yn ystyr adran 51 o'r Ddeddf honno;
(b) person sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 52 o Ddeddf 2000;
(c) person a gafodd ei ryddhau ar drwydded o dan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991) yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol;
(ch) person a gafodd ei leoli o dan warcheidiaeth yn unol â'r canlynol—
(i) cais a wnaed yn unol ag adran 7 o Ddeddf 1983; neu
(ii) gorchymyn a wnaed o dan adran 37 o'r Ddeddf honno;
(d) person sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1983;
(dd) person sy'n destun ôl-ofal o dan oruchwyliaeth yn ystyr adran 25A o Ddeddf 1983;
(e) person y mae amod a osodwyd mewn perthynas ag ef mewn grym yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) o Ddeddf 1983 (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3) o'r Ddeddf honno);
(f) person y mae gorchymyn goruchwylio a thriniaeth mewn grym mewn perthynas ag ef yn ystyr Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anffitrwydd i Bledio) 1991;
(ff) person sy'n glaf ac yn destun ôl-ofal o dan orchymyn gofal cymunedol o dan adran 35A o Ddeddf 1984;
(g) person sy'n glaf sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd o dan adran 27 o Ddeddf 1984;
(ng) person sy'n destun gorchymyn gwarcheidiaeth yn ystyr adran 57 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000) oherwydd, neu am resymau sy'n cynnwys, analluedd drwy anhwylder meddwl;
(h) person sy'n glaf cyfyngedig yn ystyr adran 63(1) o Ddeddf 1984 y rhoddwyd rhyddhad amodol iddo o dan adran 64 neu 68 o'r Ddeddf honno;
(i) person sy'n destun gorchymyn llys o dan adran 57(2)(a), (b), (c) neu (d), 58 neu 59 o Ddeddf 1995;
(j) person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn prawf yn ystyr adrannau 228 i 230 o Ddeddf 1995, neu sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 234B o'r Ddeddf honno;
(l) person a ryddhawyd ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carcharau (yr Alban) 1989) neu o dan adran 1 o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (yr Alban) 1993 a'i fod yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

ATODLEN 2
DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Rheoliad 12
1 
Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl “Community Care (Direct Payments) Act 1996”, mewnosoder “or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)” —

1. Teitl y deddfiad 2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Asesu Adnoddau) 1989 Atodlen 2, paragraff 6(2)Atodlen 3, paragraff 8(b)
Rheoliadau Cyngor a Chymorth Cyfreithiol 1989 Atodlen 2, paragraff 9A(2)
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Troseddol ac Achosion Gofal (Cyffredinol) 1989 Atodlen 3, paragraff 6(2)
Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000) Rheoliadau 19(b) a 33(b)
Rheoliadau Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cyffredinol) (Rhif 2) 2001 Atodlen 1, paragraff 8(1)(d)
2 
Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl “Social Work (Scotland) Act 1968”, rhodder “or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)”—

1. Teitl y deddfiad 2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio
Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 Atodlen 9, paragraff 58
Rheoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 Atodlen 4, paragraff 67
Rheoliadau Credyd Teulu (Cyffredinol) 1987 Atodlen 2, paragraff 57
Rheoliadau Lwfans Gweithio i'r Anabl (Cyffredinol) 1991) Atodlen 3, paragraff 55
Rheoliadau budd-dal Treth (Cyffredinol) 1992 Atodlen 4, paragraff 62
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992) Atodlen 2, paragraff 48C
Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 Atodlen 7, paragraff 56
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 Atodlen 3, paragraff 59
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997) Atodlen, paragraff 43A
3 
Yn rheoliad 19 o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002 yng nghofnod 14 yn nhabl 6, ar ôl “Health and Personal Social Services (Direct Payments) (Northern Ireland) Order”, ychwaneger “or regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments).”.