
2004 Rhif 1743 (Cy.182)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
rheoliadau 1, 2 a 5 1 Awst 2004
rheoliadau 3, 4 a 6 1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 2 a 5 yn dod i rym ar 1 Awst 2004.
(3) Mae rheoliadau 3, 4 a 6 yn dod i rym ar 1 Medi 2004.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
Llywodraethu ysgolion a gynhelir
3 
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae'r diffiniad o “maintained school” yn adran 39 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 21 a 30 at “maintained school” i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf 1998.
Addasu adran 127(6) o Ddeddf 1998
4 
Yn adran 127(6) o Ddeddf 1998 mewnosoder ar ôl paragraff (m) y canlynol —“
(n) section 30(3) and (4) of that Act (Governors' reports and other information),”.
Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech
5 
Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Awst 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw diddymiad Atodlen 23 i Ddeddf 1998 (a wnaed gan adran 215(2) a Rhan 3 o Atodlen 22 ) i rym mewn perthynas â Chymru, mae paragraff 2 o Atodlen 23 i Ddeddf 1998 i gael effaith —
(a) fel pe bai'r geiriau “under any enactment” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “under section 28 or paragraph 5 of Schedule 7” yn is-baragraffau (1), (2) a (3), a
(b) fel pe bai'r geiriau “, or by the relevant authority under section 113A(5) of, or paragraph 1 of Schedule 7A to, the Learning and Skills Act 2000” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (3)(b).
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999
6 
Diwygir rheoliad 4(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 drwy roi ar ôl y geiriau “inspected by” y geiriau “a member of the Inspectorate or”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004