
2004 Rhif 1732 (Cy.175)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym 23 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23A(3) a 10(4) o Ddeddf Plant 1989, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) (Diwygio) 2004.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2004.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad paragraff 4 o'r Prif Reoliadau
2 

(1) Ym mharagraff 4(2) o'r Prif Reoliadau, ar ddechrau'r frawddeg, ac o flaen y geiriau “unrhyw blentyn”, mewnosoder y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”.
(2) Yn Rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol—“
(2A) Wrth gyfrifo'r cyfnod o 13 wythnos y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b), ni ddylid ystyried unrhyw gyfnod pan oedd y plentyn yn derbyn gofal mewn cyfres o leoliadau tymor byr nad yw'r un ohonynt yn fwy na phedair wythnos, os dychwelodd y plentyn, ar ddiwedd pob lleoliad o'r fath, i ofal ei riant, neu berson nad yw'n rhiant ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004