
2004 Rhif 1659 (Cy.171)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 30 Mehefin 2004
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau 1997
2 
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£46.16” rhodder “£49.19”; a
(b) yn lle “£16.72” rhodder “£17.82”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D . Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mehefin 2004