
2004 Rhif 163 (Cy.18)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 28 Ionawr 2004
Yn dod i rym 31 Ionawr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), (3) a (4), 81(2) ac 81(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Ionawr 2004.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 2001” (“the 2001 Order”) yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001.
Diwygio Cod Ymddygiad Enghreifftiol
3 

(1) Mae paragraff 15(ch) yn yr Atodlen i Orchymyn 2001 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder y geiriau “lwfans neu bensiwn a wneir o dan” o flaen “Adran 18”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2004