
2004 Rhif 1607 (Cy.166)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent (Trosglwyddo Eiddo Ymddiriedolaeth) 2004
Wedi'i wneud 23 Mehefin 2004
Yn dod i rym 30 Mehefin 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 92(1), (4) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ar ôl rhoi sylw i newidiadau yn y trefniadau ar gyfer gweinyddu'r gwasanaeth iechyd yn ardaloedd Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli.
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac Awdurdod Iechyd Gwent (Trosglwyddo Eiddo Ymddiriedolaeth) 2004 a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys” (“Dyfed Powys trust property”) yw'r eiddo a bennir yn Atodlen 1;
 ystyr “eiddo ymddiriedolaeth Gwent” (“Gwent trust property”) yw'r eiddo a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 2.
Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys
2 

(1) Ar 1 Gorffennaf 2004 trosglwyddir eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
(2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Dyfed Powys yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
Trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth Gwent
3 

(1) Ar 1 Gorffennaf 2004 dosrannir eiddo ymddiriedolaeth Gwent ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi ohono a'u trosglwyddo i'r Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 2.
(2) Mewn unrhyw offeryn ymddiriedolaeth sy'n ymwneud ag eiddo ymddiriedolaeth Gwent, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr enw y mae ymddiriedolwyr eiddo ymddiriedolaeth Gwent i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y mae eiddo ymddiriedolaeth Gwent wedi cael ei drosglwyddo iddo a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd Gwent yn yr enw y mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n llywodraethu'r eiddo ymddiriedolaeth i'w hadnabod wrtho fel cyfeiriad at y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Mehefin 2004
ATODLEN 1
Eiddo ymddiriedolaeth Dyfed Powys
Rheoliad 1

£29,957

ATODLEN 2
Eiddo ymddiriedolaeth Gwent
Rheoliadau 1 a 3


Colofn 1 Colofn 2
£124,011  
 Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili £33,132
 Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd £27,061
 Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen £17,998
 Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent £16,893
 Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy £16,678
 Bwrdd Iechyd Lleol Powys £9,272
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre £2,977