
2004 Rhif 1605 (Cy.164)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 23 Mehefin 2004
Yn dod i rym 1 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Hydref 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2 

(1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” gan adran 16BA o'r Ddeddf;”.
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol—“
(1A) Bydd y geiriau “Awdurdod Iechyd”, ym mhob man lle maent yn digwydd, yn effeithiol fel pe rhoddwyd yn eu lle'r geiriau “Bwrdd Iechyd Lleol”.”.
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
3 
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y dangosir y pwnc amdano yng ngholofn (2)), rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4) yn ei le.
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
4 
Yn rheoliad 8(2)(b) yn lle “is-baragraff (b)” rhodder “is-baragraff (a)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004
YR ATODLEN
SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU
Rheoliad 3


(1) (2) (3) (4)
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Y pwnc yr hen swm y swm newydd
Rheoliad 3 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
 fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(b) ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (1A)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
 fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1A)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1A)(b) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau, a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 4 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig  
 fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
 fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 5 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig—  
 fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
 fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(c) ffi am deits £ 12.00 £ 10.00
paragraff (1)(d) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu Atodlen 1 £ 6.00 £ 5.00
paragraff (5) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 6 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded i mewn  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 6.00 £ 5.00
 fesul pâr £ 12.00 £ 10.00
Paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) £ 6.00 £ 5.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 7(1) Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddyd Grŵp Cleifion  
 ffi am gyffuriau £ 6.00 £ 5.00
Rheoliad 10(5) Tystysgrif ragdalu —  
 4 mis £ 31.40 £ 26.16
 12 mis £ 84.60 £ 71.83