
2004 Rhif 1575 (Cy.161)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'i wneud 22 Mehefin 2004
Yn dod i rym 30 Mehefin 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(3) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004 a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 2002” yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rheini a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.
Diwygiadau i Orchymyn 2002
2 

(1) Caiff Gorchymyn 2002 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau erthygl 3, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i erthygl 3A,”.
(3) Ar ôl erthygl 3, mewnosoder —“
Cyhoeddi cynlluniau gwella ym mlwyddyn ariannol 2004-2005
3A. 
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella erbyn 31 Gorffennaf 2004.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mehefin 2004