
2004 Rhif 1489 (Cy.154) (C.59)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 8 Mehefin 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”):
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—
(a) adran 18 o'r Ddeddf (Wardeniaid);
(b) adran 20 o'r Ddeddf (Codau ymddygiad a gwybodaeth arall); ac
(c) adran 46(1)(a) o'r Ddeddf, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â hi, Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf (diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”))yw 21 Mehefin 2004.
Arbed
3 
Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr adran honno o Ddeddf 1925 sydd mewn grym yn union o flaen dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn i barhau i fod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004