
2004 Rhif 1488 (Cy.153) (C.58)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud 8 Mehefin 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
Cychwyn
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) daw adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Masnachu Gwastraff ac Allyriannau 2003 i rym ar 25 Mehefin 2004.
(2) Mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004