
2004 Rhif 1312 (Cy.138)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 11 Mai 2004
Yn dod i rym 31 Mai 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995.
Diwygio Rheoliadau 1995
3 
Mae Rheoliadau 1995 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
(a) hepgorir Rheoliad 4(2)(d);
(b) hepgorir Rheoliad 7(1)(e).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mai 2004