
2004 Rhif 106 (Cy.13)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 20 Ionawr 2004
Yn dod i rym 31 Ionawr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004.
Diwygio Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994
2 

(1) Diwygir Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994  yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), rhoddir y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision”—“
 “the Commission Decision” means Commission Decision 88/234/EEC) authorising methods for grading pig carcases in the United Kingdom as amended by Commission Decision 88/478/EEC, Commission Decision 92/557/EEC), Commission Decision 93/445/EEC, Commission Decision 94/336/EEC and Commission Decision 2003/750/EC).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Ionawr 2004