
2004 Rhif 1024 (Cy.121)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2004
Yn dod i rym 12 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2 
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £18.40 yr wythnos.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004