
2004 Rhif 1023 (Cy.120)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2004
Yn dod i rym 12 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Prif Reoliadau — Terfynau Cyfalaf
2 

(1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf), yn lle'r ffigur “£20,000”, rhodder y ffigur “£20,500”.
(3) Yn rheoliad 28(1) (Cyfrifo incwm tariff o'r cyfalaf), yn lle'r ffigur “£12,250”, lle mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£13,500” ac yn lle'r ffigur “£20,000”, rhodder y ffigur “£20,500”.
Diwygio Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau — Symiau a anwybyddir wrth gyfrifo incwm heblaw enillion
3 
Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau—
(a) yn lle'r ffigur “£4.50” rhodder y ffigur “£4.75” ble bynnnag y mae'n ymddangos;
(b) yn is-baragraffau (3) a (4), yn lle'r ffigur “£6.75” rhodder y ffigur “£6.95” ble bynnag y mae'n ymddangos;
(c) dileer is-baragraff (5) ac yn ei le rhodder yr is-baragraff canlynol—“
(5) Where,
(a) the sum referred to in sub-paragraph (4) has been disregarded in the assessment of the resident’s partner’s income under these Regulations, or,
(b) the partner referred to in paragraph (4)(a) is in receipt of savings credit,
sub-paragraph (4) does not apply to the resident.”.
Dirymu
Dirymir rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004