
2004 Rhif 1013 (Cy.110)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 iddi, ac adran 143 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi  drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau bilio yng Nghymru yn unig.
Diwygiadau
2 
Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) yn unol â rheoliad 3.
Taliadau ynghylch atafaelu
3 
Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:
(a) yng ngholofn (2) o'r Tabl i baragraff 1—
(i) mewn perthynas â phennawd A (ymweliad pan na wneir atafaeliad), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”, ac yn lle “£15.00” rhodder “£16.50”;
(ii) mewn perthynas â phennawd E (meddiant o nwyddau), yn lle “£12.50” rhodder “£14.00” ac yn lle “£10.00” rhodder “£11.00”; a
(iii) mewn perthynas â phennawd H (taliad blaenorol etc.), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”; a
(b) yn is-baragraff (1) o baragraff 2 (symiau mewn perthynas ag atafaeliad)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£20” rhodder “£22.50”; a
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “20 per cent” rhodder “22.5 per cent”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004