
2004 Rhif 1012 (Cy.109)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004
Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freinir ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor  sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2004.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” “the principal Regulations” yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15” mewnosoder ar y diwedd y geiriau “, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/5/EC ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC yn rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol”.
4 
Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) —
(a) yn lle paragraff (1) rhodder y paragraff canlynol —“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig, sef bwyd yr ychwanegwyd ato at ddiben maethol penodol sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau a grybwyllir ym mharagraff (2) —
(a) onid yw'r sylwedd hwnnw'n cael ei restru o dan y categori hwnnw —
(i) yn achos unrhyw fwyd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn Atodlen 1;
(b) onid yw'r sylwedd hwnnw'n bodloni'r meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â phurdeb ac y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(c) yn achos sylwedd a restrir yn Atodlen 2, oni fodlonir yr amodau ar ei ddefnyddio (os o gwbl) a nodir yn yr Atodlen honno sy'n ymwneud â'r sylwedd hwnnw”; a
(b) mewnosoder ar ddiwedd y paragraff canlynol —“
(5) Ni fydd y cyfyngiadau ym mharagraff (1) yn gymwys nes 1 Ionawr 2007 yn achos sylwedd sy'n dod oddi mewn i un o'r categorïau a grybwyllir ym mharagraff (2) ac a restrir o dan y categori hwnnw yn Atodlen 3—
(a) os nad yw Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop wedi rhoi barn anffafriol mewn cysylltiad â defnyddio'r sylwedd hwnnw wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd DMN dynodedig; a
(b) os defnyddiwyd y sylwedd hwnnw wrth weithgynhyrchu bwyd at ddefnydd maethol neilltuol oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 11 Chwefror 2004.”.
5 
Yn Atodlen 1 (sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd DMN dynodedig) —
(a) mewnosoder yng Nghategori 2 (Mwynau) o dan y pennawd “CALCIUM” ar ôl y cofnod “— oxide”, y cofnod “— sulphate”; a
(b) mewnosoder yng Nghategori 4 (Carnitin a thawrin) ar ôl y cofnod “L-carnitine hydrochloride” y cofnod “L-carnitin-L-tartrate”.
6 
Yn lle Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddibenion meddygol arbennig) rhodder cynnwys Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
7 
Ar ôl Atodlen 2 mewnosoder fel Atodlen 3 gynnwys Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 31 Mawrth 2004
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1
ATODLEN 2 DDIWYGIEDIG I'W RHOI YN Y PRIF REOLIADAU
Rheoliad 6
“
ATODLEN 2
SYLWEDDAU YCHWANEGOL Y GELLIR EU HYCHWANEGU AT DDIBENION MAETHOL PENODOL MEWN BWYDYDD AT DDIBENION MEDDYGOL ARBENNIG
Rheoliad 3(1)(a)


Categori 3. Asidau amino
Sylweddau Amodau defnyddio
L-arginine-L-aspartate 
L-aspartic acid 
L-citrulline 
Glycine 
L-lysine-L-aspartate 
L-lysine-L-glutamate 
L-proline 
L-serine 
N-acetyl-L-cysteine 
N-acetyl-L-methionine Rhaid peidio â'i ddefnyddio ond mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer pobl dros flwydd oed.Ar gyfer asidau amino, i'r graddau y bo hynny'n gymwys caniateir defnyddio hefyd eu halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm yn ogystal â'u hydrocloridau.”
ATODLEN 2
ATODLEN 3 NEWYDD I'W MEWNOSOD YN Y PRIF REOLIADAU
Rheoliad 7
“
ATODLEN 3
SYLWEDDAU Y GELLIR EU HYCHWANEGU AT DDIBENION MAETHOL PENODOL MEWN BWYDYDD DMN DYNODEDIG YN UNOL Å'R RHANDDIRYMIAD YN RHEOLIAD 3(5)
Rheoliad 3(5)
Categori 1. Fitaminau
VITAMIN E:
— D-alpha tocopheryl polyethylene glycol 1000 succinate
Categori 2. Mwynau
BORON:
— boric acid
— sodium borate
CALCIUM:
— amino acid chelate
— pidolate
MAGNESIUM:
— amino acid chelate
— pidolate
IRON:
— ferrous hydroxide
— ferrous pidolate
— amino acid chelate
COPPER:
— amino acid chelate
ZINC:
— amino acid chelate
MANGANESE:
— amino acid chelate
SELENIUM:
— enriched yeast
CHROMIUM:
— amino acid chelate”