
2004 Rhif 1000 (Cy.106)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2004
Yn dod i rym 1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.
Cymhwyso, enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
Prisio ar sail y contractiwr
2 

(1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1B) mewnosoder—“
(1C) Paragraph (2C) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list compiled on or after the 1st of April 2005 the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.”
(3) Ar ôl paragraff (2B) mewnosoder —“
(2C) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1C) of this regulation applies, the appropriate rate shall be assumed to be—
(a) in the case of a defence hereditament, an educational hereditament or a healthcare hereditament, 3.3%; and
(b) in any other case, 5.0%”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004