
2003 Rhif 990 (Cy.139)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003
Yn dod i rym 10 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 99(6)(b) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, sydd bellach wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 
—Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Ebrill 2003.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993;
 mae i “y tir a'r adeiladau penodol” (“the specified premises”) yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the specified premises” yn adran 13(12)(a) o Ddeddf 1993.
Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd
4 
Rhaid i wrth-hysbysiad a roddir o dan adran 21 (Gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd) o Ddeddf 1993 gynnwys (yn ogystal â'r manylion sy'n ofynnol o dan yr adran honno) ddatganiad ynghylch a yw'r tir a'r adeiladau penodol o fewn ardal cynllun a gymeradwywyd fel cynllun rheoli ystâd o dan adran 70 o Ddeddf 1993.
Cymhwyso
5 
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wrth-hysbysiadau a roddir o dan adran 21 o Ddeddf 1993 ar, neu ar ôl, y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003