
2003 Rhif 974 (Cy.133)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 1 Ebrill 2003
Yn dod i rym 2 Ebrill 2003
Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Nhachwedd 2002 ar 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig'.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Newid Ffiniau Siroedd Wedi'u Cadw
2 
Diwygir ffiniau'r Siroredd Wedi'u Cadw rhwng Clwyd a Gwynedd, De Morgannwg a Morgannwg Ganol, a Gwent a Morgannwg Ganol fel bod ardaloedd y Siroedd Wedi'u Cadw hynny fel y disgrifir hwy yn Erthygl 3.
Ffiniau Newydd y Siroedd Wedi'u Cadw
3 

(1) Bydd Sir Clwyd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy.
(2) Bydd Sir Gwynedd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd Ynys Môn a Gwynedd.
(3) Bydd Sir Gwent Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd a Chaerffili.
(4) Bydd Sir Morgannwg Ganol Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Tâf.
(5) Bydd Sir De Morgannwg Wedi'i Chadw yn cynnwys sir a bwrdeistrefi sirol Caerdydd a Bro Morgannwg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Ebrill 2003