
2003 Rhif 969 (Cy.131)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Diystyru Adnoddau) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 21(2A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Diystyru Adnoddau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948; ac
 ystyr “y Rheoliadau Asesu” (“the Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(3) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig
Diystyru adnoddau
2 

(1) Wrth benderfynu at ddibenion paragraff (a) neu (aa) yn is-adran(1) o adran 21 o'r Ddeddf pa un a yw gofal a sylw ar gael fel arall i berson, rhaid i awdurdod lleol ddiystyru y rhan honno o gyfalaf person nad yw'n fwy na'r terfyn cyfalaf.
(2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a) Cyfrifir cyfalaf person yn unol â'r Rheoliadau Asesu yn yr un modd â phe bai ef neu hi yn berson y cynigir darparu llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer fel y crybwyllir yn is-adran (3) o adran 22 o'r Ddeddf, ac yn berson y mae ei allu neu ei gallu i dalu yn gymwys i'w asesu at ddibenion yr is-adran honno; a
(b) ystyr “y terfyn cyfalaf” yw'r swm ar hyn o bryd a ragnodwyd mewn perthynas â Chymru yn y Rheoliadau Asesu fel y swm na ddylai cyfalaf preswylydd (a gyfrifir yn unol â'r Rheoliadau hynny) fod yn fwy nag ef os yw ef neu hi yn berson i'w asesu fel rhywun nad yw'n gallu talu am ei lety neu ei llety ar y gyfradd safonol.
(3) Mewn achos lle y mae awdurdod lleol wedi llunio cytundeb neu wedi cytuno i lunio cytundeb taliad gohiriedig (fel y darperir ar ei gyfer yn adran 55 o Ddeddf 2001), rhaid i'r awdurdod lleol pan yw'n gwneud y cyfrif a bennir ym mharagraff (2)(a) yn y rheoliad hwn,] roi effaith i baragraff 1A yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau Asesu, fel pe bai'r paragraff hwnnw'n darllen fel a ganlyn—“
1A. 
In the case of a resident who becomes a permanent resident on or after 7th April 2003 the value of any dwelling which he or she would otherwise normally occupy as his or her only or main residence.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003