
2003 Rhif 955 (Cy.129)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2003
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126 (4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 1977 a 2A o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2003.
(3) Daw Rheoliadau 2, 3, 4, 8 a 9 i rym ar 6 Ebrill 2003.
 Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997
2 

(1) Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Hepgorir y diffiniadau o —“
 amount withdrawn”“
 disabled person’s tax credit”“
 working families' tax credit”.
(3) Yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol—“
 “child tax credit” means child tax credit under section 8 of the Tax Credits Act 2002;
 “disability element” means the disability element of working tax credit as specified in section 11(3) of the Tax Credits Act 2002;
 “gross annual income” means income that is calculated for a tax year for the purposes of Part I of the Tax Credits Act 2002 in accordance with regulations made under section 7 of that Act;
 “working tax credit” means working tax credit under section 10 of the Tax Credits Act 2002;”.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
3 

(1) Diwygir rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (3) —
(a) ar ôl is-baragraff (k) mewnosodir yr is-baragraff canlynol—“
(l) he is a member of a family—
(i) that has a gross annual income of £14,200 or less, and
(ii) one member of which is receiving—(aa) working tax credit and child tax credit, or(bb) working tax credit which includes a disability element; or(cc) child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit.”.
(b) hepgorir is-baragraffau (c), (d), (g) ac (h).
(3) Yn lle paragraff (4) rhoddir y paragraff canlynol—“
(4) In paragraph (3), “family” has the meaning assigned to it by section 137(1) of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992 as it applies to income support except that —
(a) in sub-paragraph (j) it has the meaning assigned to it by section 35 of the Jobseekers Act 1995; and
(b) in sub-paragraph (l) it has the meaning assigned to it by regulation 2(2) of the Tax Credits (Definition and Calculation of Income) Regulations 2002.”.
Mewnosod rheoliad 12A yn Rheoliadau 1997
4 
Ar ôl rheoliad 12 o Reoliadau 1997 (defnyddio talebau i gyflenwi cyfarpar optegol) mewnosodir y rheoliad canlynol—“
Notices of entitlement
12A 

(1) If a person is entitled to the payment of, or contribution towards, the cost incurred for the supply of an optical appliance because he or she is a member of a family described in regulation 8(3)(l), the National Assembly for Wales will issue a notice of entitlement;
(2) A notice of entitlement issued in accordance with paragraph (1) will apply to —
(a) the person to whom it is issued and who is named on the notice of entitlement, and
(b) any other members of his or her family.
(3) A notice of entitlement issued in accordance with paragraph (1) will be effective—
(a) from such date; and
(b) for such period,
as the National Assembly for Wales may determine.
(4) Any change in the financial or other circumstances of a person who is a member of a family in respect of which a notice has been issued in accordance with paragraph (1), during the period for which the notice of entitlement has been issued, will not affect the validity of the notice of entitlement in respect of that period.”.
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
5 
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a) ym mharagraff 1(b), yn lle “£44.60”, rhoddir “£45.70”; a
(b) ym mharagraph (3)(c) yn lle “£11.50”, rhoddir “£11.80”.
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
6 

(1) Yn Atodlen 1 Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL
(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£ 30.50 £ 31.30
£ 46.40 £ 47.60
£ 63.20 £ 64.80
£ 142.70 £ 146.30
£ 52.70 £ 54.00
£ 67.00 £ 68.70
£ 81.00 £ 83.00
£ 157.00 (y ddau dro y mae'n ymddangos) £ 160.90
£ 44.60 £ 45.70
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg unigol), yn lle “£9.90” rhoddir “£10.10”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£11.90” rhoddir “£12.20”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg unigol arlliw), yn lle “£3.30” rhoddir “£3.40”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.80” rhoddir “£3.90”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol fach)—
(i) yn lle “£50.20” rhoddir “£51.50”,
(ii) yn lle “£44.60” rhoddir “£45.70”, a
(iii) yn lle “£24.20” rhoddir “£24.80”;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig) yn lle“£50.20” rhoddir “£51.50”;
(e) ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lens golwg unigol), yn lle “£10.70” rhoddir “£11.00”.
(f) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys eraill), yn lle “£27.00” rhoddir “£27.70”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhoddir yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Defnyddio'r Rheoliadau hyn
7 
Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003.
Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986
8 

(1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Hepgorir y diffiniadau o—“
 amount withdrawn”“
 disabled person’s tax credit”“
 working families' tax credit”.
(3) Yn y lleoedd priodol ac yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol—“
 “child tax credit” means child tax credit under section 8 of the Tax Credits Act 2002;
 “disability element” means the disability element of working tax credit as specified in section 11(3) of the Tax Credits Act 2002;
 “gross annual income” means income that is calculated for a tax year for the purposes of Part I of the Tax Credits Act 2002 in accordance with regulations made under section 7 of that Act;
 “working tax credit” means working tax credit under section 10 of the Tax Credits Act 2002;”.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
9 

(1) Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg — cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2) ,
(a) ar ôl is-baragraff (j) mewnosodir yr is-baragraff canlynol—“
(k) he is a member of a family—
(i) that has a gross annual income of £14,200 or less, and
(ii) one member of which is receiving—(aa) working tax credit and child tax credit, or(bb) working tax credit which includes a disability element; or(cc) child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit.”.
(b) hepgorir is-baragraffau (c), (d), (g) ac (h).
(3) Yn lle paragraff (3) rhoddir y paragraff canlynol—“
(3) In paragraph (2), “family” has the meaning assigned to it by section 137(1) of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992 as it applies to income support except that —
(a) in sub-paragraph (j) it has the meaning assigned to it by section 35 of the Jobseekers Act 1995; and
(b) in sub-paragraph (l) it has the meaning assigned to it by regulation 2(2) of the Tax Credits (Definition and Calculation of Income) Regulations 2002.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis- Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2003
YR ATODLEN
ATODLEN I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
Rheoliad 3(3)
“
SCHEDULE 3
VOUCHER VALUES — REPAIR
Regulations 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of repair Letter Codes — Value
 A B C D E F G H&I
 £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 9.75 17.90 26.50 67.25 21.10 28.45 35.60 74.55
Repair or replacement of two lenses 19.45 35.75 53.00 134.50 42.25 56.90 71.25 149.15
Repair or replacement of: —        
the front of a frame 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00
a side of a frame 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95
the whole frame 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80”