
2003 Rhif 947 (Cy.128)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2003
Yn dod i rym 31 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (2)(b) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: —
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2 
Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau “1 Ebrill 2003” rhodder y geiriau “31 Hydref 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003