
2003 Rhif 946 (Cy.127)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003
Wedi'i wneud 26 Mawrth 2003
Yn dod i rym 31 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Prif Orchymyn” yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
Diwygio erthygl 1
3 
Yn erthygl 1(2) o'r Prif Orchymyn rhoddir y geiriau “1 Awst 2003” yn lle “1 Ebrill 2003”.
Diwygio erthygl 7
4 
Yn lle is-baragraff (2)(a) o erthygl 7 o'r Prif Orchymyn, rhoddir yr is-baragraff canlynol —“
(a) a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) neu reoliad 14 o Reoliadau 2000; neu”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003E. A. Morley
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
27 Mawrth 2003