
2003 Rhif 943 (Cy.124)
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Mai 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(5) o Ddeddf Drafnidiaeth 2000, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002.
Diwygio Rheoliadau 2002: dehongli
3 

(1) Mewnosodir y canlynol yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002 (dehongli) —
(a) o flaen diffiniad “gwasanaeth lleol” —“
 ystyr “gwasanaeth coetsys domestig” (“domestic coach service”) yw gwasanaeth bysiau—
(a) sy'n cludo teithwyr am brisiau tocyn unigol;
(b) sy'n gweithredu rhwng dwy arosfan raglenedig (y mae rhaid i o leiaf un ohonynt fod yng Nghymru), p'un a yw'r gwasanaeth yn terfynu yn un o'r arosfannau hyn neu yn y ddwy ohonynt; ac
(c) nad yw'n wasanaeth lleol;”;
(b) ar ôl diffiniad “person anabl” —
 “ystyr “pris tocyn apex” (“apex fare”), mewn perthynas â thaith, yw pris tocyn sy'n daladwy wrth brynu tocyn ar gyfer y daith honno o leiaf saith diwrnod clir cyn y dyddiad teithio, ac sy'n bris tocyn nad yw'n fwy na 90% o'r pris tocyn llawn ar gyfer oedolyn a fyddai'n daladwy wrth brynu tocyn o'r fath ar y diwrnod teithio;
(c) ar y diwedd —“
 mae i “trwydded consesiwn teithio statudol” (“statutory travel concession permit”) yr un ystyr â “statutory travel concession permit” yn adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.”.
Diwygio Rheoliadau 2002: rheoliad 3
4 

(1) Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2002 (cymhwyster i gael grant) yn cael ei ddiwygio yn unol â'r ddarpariaeth ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ddiwedd paragraff (1) mewnosodir —“
(ch) gwasanaeth coetsys domestig, i'r graddau y mae ei daith yng Nghymru ac y mae'r amodau a nodir ym mharagraff (5) yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef.”.
(3) Mewnosodir ar y diwedd—“
(5) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) yw—
(a) bod y gwasanaeth yn darparu consesiynau teithio hanner-pris (ac eithrio i bersonau sy'n teithio drwy dalu pris tocyn apex) ar nid llai na 290 diwrnod y flwyddyn ac ar nid llai nag 21 diwrnod y mis (ac eithrio mis Rhagfyr) ac ar nid llai na 12 diwrnod ym mis Rhagfyr (neu nifer pro rata y diwrnodau hynny yn ôl eu trefn os yw'r gwasanaeth yn rhedeg am ran o flwyddyn neu fis yn unig; gan dalgrynnu'r nifer gofynnol i lawr, yn ôl yr angen, i'r nifer cyfan agosaf o ddiwrnodau), i'r canlynol—
(i) personau sydd wedi cyrraedd 60 oed; a
(ii) unrhyw berson y mae trwydded consesiwn teithio statudol gyfredol wedi'i dyroddi iddo, wrth i'r person hwnnw ddangos y drwydded, neu i unrhyw berson arall sy'n gallu dangos y byddai ganddo hawl i gael trwydded consesiwn teithio statudol oni bai am gytundeb o dan adran 145(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b) bod y gwasanaeth yn rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos am gyfnod heb fod yn llai na chwe wythnos yn olynol;
(c) bod y seddau sydd ar y cerbyd, a'r seddau hynny yn gyfrwng i ddarparu'r gwasanaeth, ar gael fel rheol i aelodau'r cyhoedd a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(ch) bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol ag amserlen; a
(d) bod trefniadau yn cael eu gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau'r cyhoedd gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003