Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei ailargraffu i gywiro'r hyn a gafodd ei hepgor o'r tabl gorchmynion cychwyn yn y nodyn esboniadol ac fe'i dosberthir yn rhad ac am ddim i bawb y mae'n hysbys iddynt ei dderbyn.
2003 Rhif 939 (Cy.123) (C.50)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 26 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y “Ddeddf”.
(3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mawrth 2003
ATODLEN 1
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2003
Erthygl 2


Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 53 Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl
Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2) Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach
Adran 55 Pŵer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau