
2003 Rhif 896 (Cy.116)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 ddod i rym.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol“
52. 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a oedd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, naill ai'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth faethu ac sy'n parhau naill ai i'w rhedeg neu i'w rheoli.
(2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo (“person anghofrestredig”) —
(a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—
(i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —
(a) yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn bod adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig hwnnw; a
(b) yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.
(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—
(a) caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;
(b) bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.
(5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu sy'n dod o dan adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sy'n bodoli yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (6) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth —
(a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—
(i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).
(8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(9) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi ei fodloni y dylai'r plentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth, caiff wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (10), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar ei ran gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (8) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—
(a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparwr hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—
(i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu
(c) tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).
(10) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai—
(a) ei fod wedi ei fodloni —
(i) bod y darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig â'r gallu i gyflawni'r dyletswyddau ar ei ran; a
(ii) mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a
(b) ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.
(11) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003