
2003 Rhif 880 (Cy.111)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 25 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enw, cychwyn a chymwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg lawnamser neu ran-amser sydd yn addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol orfodol;
 a
 mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.
Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol
3 

(1) Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.
(2) Rhaid bod disgybl cofrestredig sydd yn derbyn addysg feithrin yn derbyn addysg lawnamser.
Darpariaeth drosiannol
4 
Bydd disgybl sydd yn derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo neu iddi hi yn union cyn 1 Ebrill 2003, yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r plentyn hwnnw dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996; hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003