
2003 Rhif 817 (Cy.102)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003
Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG
2 
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992, ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
19 Mawrth 2003