
2003 Rhif 815 (Cy.100)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003
Wedi'u gwneud 20 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(2), (3) a (5) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977  drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “y Bwrdd” (“the Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Powys
 ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Ebrill 2003
 ystyr “y Swyddogaethau Ychwanegol” (“the Additional Functions”) yw —
(a) perchenogaeth a rheolaeth adeiladau a gwasanaethau ysbyty yn Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LU ac ysbytai cysylltiedig; a
(b) rheolaeth gwasanaethau iechyd cymunedol a ddarperir gan Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys, LD3 0LU a pherchenogaeth y tir a'r adeiladau cysylltiedig; ac
(c) swyddogaethau rheolwyr o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys
3 
Mae'r Swyddogaethau Ychwanegol i'w harfer gan y Bwrdd o'r dyddiad perthnasol ymlaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2003