
2003 Rhif 803 (Cy.97)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003
Yn dod i rym 2 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 131(2) o Ddeddf Tai 1985 sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y “prif Orchymyn” yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999.
Diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999
3 
Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur “£24,000” rhodder y ffigur “£16,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003