
2003 Rhif 783 (Cy.94)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 18 Mawrth 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 41, 42 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) 1992 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
Diwygio paragraff 10A yn Atodlen 2
2 
Diwygir paragraff 10A i Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
(a) ym mharagraff 7(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b) ym mharagraph (7)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
18 Mawrth 2003