
2003 Rhif 607 (Cy.81)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 6 Mawrth 2003
Yn dod i rym 9 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5, 5A a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw a chychwyn
1 
 Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.
Dehongli
2 
 Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr ardal fôr benodedig” (“the specified sea area”) yw'r ardal hwnnw o Fae Caerfyrddin sydd i'r gogledd o linell yn rhedeg yn union tua'r de o Benrhyn Gŵ yr i bwynt y mae ei yn gyfesurynnau yn 04°10−Gor, 51°30−Gog yna tua'r gorllewin i 04°27−Gor, 51°30−Gog, yna tua'r gogledd i 04°27−Gor, 51°36−Gog, yna tua'r gorllewin i 04°42−Gor, 51°36−Gog, ac yna yn union tua'r gogledd ar draws yr Ynys Bŷr i'r arfordir yn Nimbych y Pysgod;
 ystyr “carthu hydrolig” (“hydraulic dredging”) yw'r dull o bysgota am folysgiaid dwygragennog sydd wedi'u claddu yng ngwely'r môr drwy dynnu'r carthwr y tu ôl i'r cwch ar ben pibell â thrawsfesur o 10-20cm a phwmpio dŵr o dan bwysedd uchel i geg y carthwr a'i gyfeirio yn ôl i fyny'r bibell gan greu sugnedd sy'n peri i ddeunydd, gan gynnwys y pysgod y certhir amdanynt, gael eu codi i wyneb y dŵ r,
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “molysgiaid dwygragennog” (“bivalve molluscs”) yw molysciaid gyda chragen ddeuran golfachog sy'n cau am ddarnau meddal yr anifail.
Gwaharddiad
3 
Mae carthu hydrolig i hel molysgiaid dwygragennog yn yr ardal fôr benodedig drwy hyn yn cael ei wahardd.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig o ran cychod pysgota
4 

(1) At ddibenion gorfodi erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd yn y môr tiriogaethol cyfagos i Gymru y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hon.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, boed gyda phobl wedi eu pennu i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog neu hebddynt, ac i'r perwyl hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn aros a chaiff wneud unrhyw beth arall a fyddai yn hwyluso mynd ar y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu presennoldeb y meistr a phobl eraill ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad yr ymddengys fod eu hangen at y dibenion a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hon ac, yn benodol—
(a) caiff archwilio unrhyw bysgodyn sydd ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod pobl sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwilio;
(b) caiff fynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithredoedd pysgota, neu weithredoedd sy'n ategol iddynt neu i'r bobl ar y cwch, sydd ym meddiant yr unigolyn hwnnw neu yn eiddo iddo a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad, ac
(ch) os oes gan y swyddog reswm dros gredu bod trosedd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch at ddibenion galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r trosedd;
ond nid yw dim byd yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ei chludo ar gwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio pan fo'r cwch wedi ei ddal mewn porthladd.
(4) Os ymddengys i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain, caiff y swyddog hwnnw—
(a) mynnu bod meistr y cwch y bu'r trosedd yn gysylltiedig ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sydd, yn nhyb y swyddog, y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog yntau wneud hynny; a
(b) dal y cwch yn y porthladd neu fynnu bod y meistr yn ei ddal yno;
ac os bydd swyddog o'r fath yn dal cwch neu'n mynnu bod cwch yn cael ei dal rhaid i'r swyddog hwnnw gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2003