
2003 Rhif 529 (Cy.74)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2003
Yn dod i rym 7 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys i Gymru.
(3) Ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) 1999 (The Land in Care Scheme (Tir Gofal) (Wales) Regulations 1999).
Diwygio rheoliad 2
2 
Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ychwaneger y paragraff canlynol:—“
(4) In these Regulations, references to “hardwood” mean Welsh oak only and payments in relation to any other wood are to be made at the “softwood” rate.”.
Diwygio Atodlen 2
3 

(1) Diwygir Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle paragraff 2 rhoddir:—“
In relation to the management of heath land which is—
(a) high mountain heath and upland heath — £50 per hectare per agreement year
(b) lowland heath — £80 per hectare per agreement year
”.
(3) Dilëir paragraff 3(b) a mewnosodir y testun canlynol:“
(b) management of unimproved neutral grassland — £90 per hectare per agreement year”.
(4) Dilëir paragraff 3(d) a mewnosodir y testun canlynol:“
(d) management of semi-improved grassland — £90 per hectare per agreement year”.
(5) Dilëir paragraff 4(a) a mewnosodir y testun canlynol:“
(a) management of bogs — £40 per hectare per agreement year”.
(6) Dilëir paragraph 4(b).
(7) Dilëir paragraph 5(a) a mewnosodir y testun canlynol:“
(a) management of improved land which is coastal grazing marsh or floodplain grassland
(i) lightly grazed — £180 per hectare per agreement year
(ii) moderately grazed — £100 per hectare per agreement year”.
Diwygiadau i Atodlen 3
4 

(1) Diwygir Atodlen 3 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 2(c), dilëir is-baragraffau (i) a (ii).
(3) Ym mharagraff 2(c) yn lle is-baragraffau (iii) a (iv) rhoddir:“
(iii) on neutral grassland — £110 per hectare per agreement year
(iv) on acid and limestone grassland — £130 per hectare per agreement year”.
(4) Yn lle is-baragraffau 3(e) ac (f) rhoddir:“
(e) establishment of heathland vegetation on acid grassland or maritime cliffs and slopes — £110 per hectare per agreement year”.
(5) Yn lle is-baragraffau 3(h) ac (i) rhoddir:“
(h) establishment of new saltmarshes and creation of reedbeds on existing saltmarshes — £230 per hectare per agreement year.”
(6) Dilëir paragraff 4.
Diwygio Atodlen 4
5 

(1) Diwygir Atodlen 4 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Ar ôl is-baragraff 1(h) ychwanegir:“
(ha) erection of post, wire and netting fencing which is made of—
 softwood — £1.75 per metre
 hardwood — £2.00 per metre”
(3) Yn is-baragraff 1(k)(ii) yn lle “£2.60” rhoddir “£2.88”.
(4) Yn is-baragraff 1(l)(ii) yn lle “£11” rhoddir “£10.80”.
(5) Yn is-baragraff 1(m)(i) yn lle “£110” rhoddir “£120”.
(6) Yn is-baragraff 1(m)(ii) yn lle “£160” rhoddir “£144”.
(7) Ym mharagraff 3 mewnosodir:“
(c) heather cutting — £60 per hectare”.
(8) Yn lle is-baragraff 5(a) rhoddir:“
(a) removal or reduction of bracken by mechanical means or tractor mounted sprayer — £50 per hectare”.
(9) Yn lle is-baragraff 5(b) rhoddir:“
(b) removal or reduction of bracken by aerial spraying or hand held sprayer — £120 per hectare”.
(10) Dilëir is-baragraff 5(c).
(11) Yn lle is-baragraff 8(a) rhoddir:“
(a) introducing wild plants — £150 per hectare”.
(12) Dilëir is-baragraff (b), (c), (d) ac (e) o baragraff (8).
(13) Yn lle is-baragraffau 9(a) rhoddir:“
(a) creation or restoration of a pond — £2.50 per square metre and subject to a maximum of £500 per pond”.
(14) Dilëir is-baragraff 9(b).
(15) Yn lle is-baragraff 9(c) rhoddir:“
(c) installation of soil bunds — £35 per bund”.
(16) Yn lle is-baragraff 9(d) rhoddir:“
(d) installation of a timber sluice — £140 per sluice”.
(17) Yn lle is-baragraff 9(f) rhoddir“
(f) hard surfacing — £5 per square metre”.
(18) Dilëir is-baragraff 9(g).
(19) Yn is-baragraff 11(a)(i) yn lle “£100” rhoddir “£120”.
(20) Yn is-baragraff 11(a)(ii) yn lle “£150” rhoddir “£144”.
(21) Yn is-baragraff 11(b)(i) yn lle “£110” rhoddir “£130”.
(22) Yn is-baragraff 11(b)(ii) yn lle “£160” rhoddir “£156”.
(23) Dilëir is-baragraff 11(m).
Symiau o Gymhorthdal
6 
Yn rheoliad 9 ychwanegir y paragraffau canlynol—“
(3) Payments for capital activities in accordance with Schedule 4 are subject to the following overall limits for the duration of the Tir Gofal agreement—
(a) For farms of less than 20 hectares — £5,000;
(b) For farms of 20-50 hectares — £10,000;
(c) For farms of more than 50 hectares — £20,000.
(4) The Countryside Council may increase any payment in relation to habitats referred to in Schedule 2 or 3 by 10% where cattle have been used to achieve an environmental benefit, and by a further 10% of the original figure where Welsh Black cattle have been so used.”.
Darpariaethau trosianol
7 

(1) Caiff y Rheoliadau hyn effaith yn syth mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodir ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny.
(2) Mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys fel a ganlyn—
(a) Yn achos paragraffau y rhoddwyd darpariaethau yn eu lle, bydd y darpariaethau hynny yn gymwys o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
(b) Yn achos paragraffau a ddilewyd, fe fydd hawl gan ddeiliad y cytundeb i barhau i gael taliadau o dan y darpariaethau a ddilewyd a oedd yn gymwys pan lofnodwyd y cytundeb Tir Gofal, yn hytrach na'r darpariaethau a fewnosodwyd gan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003