
2003 Rhif 525 (Cy.73) (C.28)
YR HEDDLU, CYMRU
Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 5 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(4) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Cychwyn
2 
Daw adrannau 97 a 98 o Ddeddf 2002 (partneriaethau gostwng nifer yr achosion o drosedd ac anhrefn a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â strategaethau) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003 i'r graddau y maent yn ymwneud ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003